Wele Sinai a Chalfaria Wedi d'od i gwrdd yn nghyd; Sylwedd mawr yr holl gysgodau Wedi dyoddef dros y byd; Gwaed yr Oen fu ar Galfaria, Haeddiant Crist a'i farwol glwy', Fydd fy nghân tu yma'r afon, Ac ar ol im' fyned trwy. - - - - - Wele Sinai a Chalfaria Heddyw wedi dod ynghyd; Sylwedd mawr yr holl gysgodau Yn wynebu'r dwyfol lid: Dacw'r cleddyf wedi deffro, Llyfrau'r ddeddf yn dod ym mlaen; Dacw awr y gwaredigion Wedi ei buro yn y tân.Ann Griffiths 1776-1805
Tonau [8787D]: gwelir: Dyma babell y cyfarfod Ffordd a drefnwyd yn y nefoedd O fy enaid cwyd dy olwg |
Behold Sinai and Calvary Having come to meet together; The great substance of all the shadows Having suffered for the world; The blood of the Lamb who was on Calvary, The merit of Christ and his mortal wound, Shall be my song this side of the river, And after I have gone through. - - - - - Behold Sinai and Calvary Today having come together; The great substance of all the shadows Facing the divine wrath: Yonder the sword having awoken, The books of the law coming forward; Yonder the hour of the delivered ones Having been purified in the fire.tr. 2020 Richard B Gillion |
|